Cais am dystiolaeth: fersiwn drafft Bil Cymru
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal ymarfer craffu cyn y broses ddeddfu ar fersiwn drafft Bil Cymru yn ystod Hydref a Thachwedd 2015. Bwriad y Llywodraeth fydd cyhoeddi'r Bil drafft pan fydd y Senedd yn dychwelyd ar ôl cynadleddau'r pleidiau ganol Hydref.
Nod y Bil drafft fydd:
· Symud model datganoli Cymru o fod yn fodel 'rhoi pwerau' i fodel ‘cadw yn ôl'
· Datganoli rhagor o bwerau i Gymru o safbwynt ynni, trafnidiaeth, yr amgylchedd ac etholiadau
Cylch Gorchwyl
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i ystyried y canlynol:
· A yw cynigion y Llywodraeth, yn arbennig o ran model cadw pwerau yn ôl, yn rhai cadarn? Os nad ydynt, sut y gellid gwella'r Bil drafft?
· A yw darpariaethau fersiwn drafft Bil Cymru yn cyflawni bwriadau polisi Llywodraeth y DU? A ellid gwella neu newid geiriad y Bil drafft?
Byddai'r Pwyllgor, yn arbennig, yn croesawu awgrymiadau ar welliannau neu addasiadau i gymalau yn y Bil.
Gofynnir i'r rhai â diddordeb gadw at uchafswm o 3,000 o eiriau a chanolbwyntio ar y prif feysydd y dylai'r Pwyllgor ymchwilio iddynt yn ystod ei ymchwiliad. Nid oes angen ymdrin â'r holl faterion a godir yn y Bil.
Bydd y Pwyllgor yn derbyn tystiolaeth ysgrifenedig cyn ac yn ystod ei raglen o dystiolaeth lafar, ond argymhellir cyflwyno sylwadau yn gynnar. Dylid cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig drwy'r ddolen hon. Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig naill ai'n Gymraeg neu yn Saesneg.
Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn San Steffan a Chaerdydd yn ystod Hydref a Thachwedd. Mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r Bil ddechrau 2016.